Parcio a Theithio

Dwyrain Caerdydd

Croeso

Croeso i’n cynigion ar gyfer ailddatblygu Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd.

Mae Curtis Hall Ltd. yn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Dinas Caerdydd ac mae’n croesawu eich adborth ar y cynigion a gyflwynir yma.

Mae’r holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r cais isod, ynghyd â chrynodeb o’r cynigion.

Y safle

Mae’r safle’n cynnwys Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd fel y mae ar hyn o bryd yn Llanrhymni, Caerdydd. Mae’r Parcio a Theithio presennol yn cynnwys tua 1,000 o leoedd parcio car, ynghyd â phwyntiau casglu a gollwng bysus, a swyddfa/adeilad amwynderau.

Mae mynediad iddo o’r A48 (Rhodfa’r Dwyrain).

Y cynigion

Nod y cynigion yw gwella’r cyfleuster parcio a theithio presennol drwy ddarparu:

  • 600 lle parcio ceir gyda’r posibilrwydd o gynyddu nifer y lleoedd
  • Ffordd liniaru pont newydd sy’n cysylltu’r A48 Rhodfa’r Dwyrain â Llanrhymni
  • Lle swyddfeydd ar gyfer cyflogaeth newydd, gan gynnwys unedau diwydiannol a masnachol
  • Gwelliannau i’r tirlun, gan gynnwys lle amwynder awyr agored ac ardaloedd eistedd
  • Mynediad gwell ar hyd Llwybr Rhymni ar gyfer cerdded a beicio
I grynhoi, mae’r buddion yn cynnwys y canlynol:
  • Gwelliannau i fynediad a gweithrediad y parcio a theithio, gan leihau tagfeydd mewn ardaloedd gerllaw, gan gynnwys canol y ddinas ac Ysbyty’r Heath.
  • Gwelliannau tirlunio i ddarparu defnydd hamdden ar gyfer Llwybr Rhymni o ran cerdded a beicio
  • Lle masnachol, gan gynnwys defnydd cownter masnach a gyrru drwodd.
  • Swyddi lleol yn cael eu darparu wrth adeiladu ac ehangu’r safle.
  • Cysylltiadau gwell i’r ardal gyffiniol drwy’r heol gysylltu newydd, a fydd yn cynnwys mynediad i gerddwyr a beicwyr, yn ogystal â’r posibilrwydd o wasanaethau bws gwell yn y dyfodol.
  • Gwaith peirianneg i leihau dynodiad risg o lifogydd presennol y safle

Os hoffech chi weld y cynigion mewn mwy o fanylder, mae’r holl ddarluniadau, adroddiadau a dogfennau cefnogi atodol perthnasol ar gyfer y cais cynllunio ar gael i’w craffu ar-lein isod.

Os nad ydych chi’n gallu cyrchu’r dogfennau’n electronig, gallwch chi ofyn am gopïau o’r wybodaeth hon drwy e-bostio consultation@iceniprojects.com.

Os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau am y cynigion, bydd gennych chi tan 24ain Hydref 2022. Hoffem eich annog i e-bostio’r rhain at consultation@iceniprojects.com. Fel arall, gallwch lawrlwytho’r ffurflen atodedig a’i hanfon at Da Vinci House, 44 Saffron Hill, London EC1N 8FH.